MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Tregaron,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 30,559 - 32,654 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 30,559 - 32,654 *
Ynglŷn â'r rôlMae'r Corff Llywodraethol am benodi Cydlynydd Hafan effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig, gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i ddatgloi potensial pob disgybl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weithrediadau Hafan sydd yn lleoliad ar gyfer cymorth lles yn ogystal â chynnig darpariaeth o gyrsiau sgiliau bywyd. Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol i ddechrau ar Fawrth 3ydd neu mor fuan â phosib wedi hynny. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Mae Ysgol Henry Richard yn ysgol sy'n darparu addysg ar gyfer dysgwyr o dair i un ar bymtheg mlwydd oed. Ein gweledigaeth yw sicrhau ysgol gynhwysol sy'n cefnogi pob un dysgwr i lwyddo ar draws ein cwricwlwm mewn amgylchedd hapus, cefnogol ac uchelgeisiol. Mae datblygu a pharatoi dysgwyr i fod yn wybodus a chymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn greiddiol i'r ddealltwriaeth o werthoedd ysgol a gaiff ei hadlewyrchu yn eu dewisiadau yn y dyfodol a gweithredu ein harwyddair "Mewn Llafur Mae Elw" ar bob lefel gymdeithasol a phersonol.Mae llais ein dysgwyr yn hanfodol trwy gydol eu taith yn yr ysgol hon, gan arwain at gwricwlwm cytbwys ac eang er mwyn meithrin annibyniaeth, hyder a gwytnwch ar gyfer paratoi ar gyfer dyfodol disglair.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh, ar pughd22@heneryrichard.ceredigion.sch.uk
Dyddiad cyfweliad: 31/01/2025
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy