MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Cynorthwyydd Safle Cyn - Ysgol (Dechrau'n Deg)Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Yn cynorthwyo arweinydd y safle wrth gynllunio, adolygu a chyflenwi profiadau chwarae o ansawdd da / cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac wrth gefnogi gofal, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion. Yn cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y safle lle gall y plant a'r gofalwyr deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi, a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o
weithgareddau. Mae'r swydd yn cael cyfarwyddyd gan Arweinydd y Safle neu 'unigolyn cyfrifol' neu aelod arall o staff uwch, ac mae'n atebol i'r sawl hwn.
Prif Gyfrifoldebau:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl sydd ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur) a
gosod adnoddau yn ôl cyfarwyddyd arweinydd y safle.
- Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.