MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes Canolfan Cynhwysiant ar y Safle - Ysgol Aberconwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Ysgol AberconwyAthro/Athrawes Canolfan Cynhwysiant ar y Safle
I ddechrau Ebrill 2025 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)
Mae hon yn swydd lawn amser, barhaol.
Cyflog: Prif /Uwch Raddfa Addysgu
Dyddiad Cau: Dydd Llun 3ydd Chwefror 2025
Dynodiad yr Iaith Cymraeg: Dymunol
Yn Aberconwy, mae gennym ddarpariaeth ragorol ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ymddygiad heriol, presenoldeb ac iechyd meddwl. Mae'r OSIC yn rhan o'r ganolfan lawer mwy hon o fewn yr ysgol ac mae'n cefnogi disgyblion sy'n cael anhawster i gael mynediad i wersi prif ffrwd. Mae tîm mawr sy'n cydweithio yn y ganolfan i gynnig cwricwlwm deniadol gydag ymagwedd gyfannol at les disgyblion.
Felly, rydym yn ceisio penodi Athro brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain o fewn ein OSIC gyda chefnogaeth cynorthwyydd addysgu. Byddant yn gweithio dan arweiniad cydlynydd y ganolfan i reoli'r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr, yn enwedig ym maes ymddygiad, anghenion cymdeithasol ac emosiynol, ac iechyd meddwl er mwyn sicrhau'r cyflawniad gorau posibl. Byddant yn cydlynu gyda Phenaethiaid Adrannau ar draws yr ysgol i sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno cwricwlwm deniadol i'r disgyblion hynny o fewn yr OSIC a byddant yn gweithio gyda staff eraill ar draws y ganolfan i sicrhau bod anghenion pob disgybl yn cael eu diwallu.
Gweithdrefnau Diogelu
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal. Yng ngoleuni hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:
Gwneir pob penodiad yn amodol ar y canlynol:
Gwiriadau GDG manwl;
Gwiriadau o statws proffesiynol (CGA; QTS ayyb.);
Cadarnhad o gymwysterau proffesiynol;
Derbyn geirdaon cryf (os na chawsant eu derbyn erbyn y cyfweliad);">Cliriad meddygol
Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.
This form is also available in English