MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Gorwelion Newydd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Lefel 3 Cynorthwyydd Addysgu
G05 £17,762 - £18,335 y flwyddyn
30 awr yr wythnos - Yn ystod y tymor yn unig (39 wythnos)
Rydym yn Uned Cyfeirio Disgyblion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n darparu addysg i ddisgyblion oedran uwchradd nad ydynt yn gallu mynychu ysgol brif lif. Rydym yn gweithredu o dri safle, sef Stiwdio Pen-y-Cae, Stiwdio Hafod a Haulfan, sy'n arbenigo mewn cefnogi anghenion disgyblion sy'n ymwneud ag ymddygiad ac iechyd meddwl
Rydym yn angerddol am roi'r cyfle i ddisgyblion ail-fagu hunanhyder a pharch, er mwyn ail-ymgysylltu'n llwyddiannus â'u dysgu. Mae gennym uchelgeisiau ar gyfer ein holl ddisgyblion, pa bynnag amgylchiadau heriol y maent yn eu hwynebu. Rydym yn falch o fod yn rhan o gymuned Wrecsam.
Rydym yn awyddus i recriwtio dau Gynorthwyydd Addysgu Lefel 3 i ymuno â thîm Stiwdio Pen-y-Cae. Prif ffocws y safle yma yw cefnogi ymgysylltiad llwyddiannus a chynnydd mewn dysgu.
Mae ein tîm yn fywiog, yn arloesol ac yn flaengar. Byddwch yn derbyn lefel ardderchog o gefnogaeth gan gydweithwyr a'r uwch dîm rheoli.
Ewch i'n gwefan (www.newhorizons.cymru) neu cysylltwch â'r gwasanaeth am fwy o fanylion.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi eu cwblhau i'r Pennaeth yn yr Ysgol:
Gorwelion Newydd / New Horizons
Stiwdio Pen-y-Cae, Ffordd Afoneitha, Pen-y-Cae, Wrecsam
LL14 2PF
mailbox@prs.wrexham.sch.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.