MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

GO7: £30,559-£32,115 y flwyddyn

37 Awr yr Wythnos - Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried

Swydd dros dro tan Rhagfyr 31ain, 2025, yn y lle cyntaf

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Ymarfer Corff Proffesiynol cymwys i weithio fel rhan o dîm i gyflwyno rhaglen ymarfer corff ar gyfer Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS). Mae'r cynllun hwn yn ymgorffori cyfleoedd ymarfer corff yn y gymuned ar gyfer cleientiaid a atgyfeirir â chyflyrau iechyd fel rhan o lwybr clefyd cronig lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sian Brierley ar 01978 297361.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran. Nodwch fod y swydd hon yn destun GDG uwch (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 02/02/25