MANYLION
  • Lleoliad: Tregaron,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: 30,742 - 49,944 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Henry Richard

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 30,742 - 49,944 *

Ynglŷn â'r rôl
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Henry Richard yn awyddus i benodi athro/athrawes Saesneg i ddechrau ar Mawrth 3ydd, 2025. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Athro/athrawes effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig, gyda'r wybodaeth a'r sgiliau i ddatgloi potensial pob un disgybl.

Cytundeb: Cyfnod penodedig tan 31/8/2025.

Bydd yr ymgeisydd lwyddiannus yn ymuno gyda thîm brwdfrydig o staff sy'n ymroi'n llwyr i sicrhau llwyddiant pob un disgybl.

Bydd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu hystyried.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu'u lles a chydnabod eu hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi gan ethos cyffredinol yr holl ysgolion.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal: 30/01/2025

Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh, ar pughd22@henryrichard.ceredigion.sch.uk.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Tregaron Tref farchnad yw Tregaron wedi'i lleoli ar ochr orllewinol Mynyddoedd Cambria.
Darllen mwy