MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair
Lôn yr Ysgol
Owrtyn
Wrecsam
LL13 0ES
Ffon: 01978 710370
Pennaeth: Mr. D Morris
GLANHAWR
G02 £12.26 yr awr
10 awr yr wythnos
Yn ystod y tymor yn unig, 39 wythnos (gan gynnwys diwrnodau hyfforddi)
Rydym yn chwilio am lanhäwr i weithio yn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Eglwys y Santes Fair yng Nghymru
Prif Atebolrwydd
Mae'r amrywiaeth o waith a wneir gan y staff glanhau yn cynnwys glanhau'r holl ystafelloedd, toiledau, coridorau, swyddfeydd ac ardaloedd eraill o'r fath sy'n cael eu defnyddio yn ôl cyfarwyddyd y Goruchwyliwr Ardal. Disgwylir i chi wneud y canlynol:
1. Cyflawni'r holl waith i'r safon ofynnol, mor aml ag y nodir ac yn ôl cyfarwyddyd Goruchwylydd yr Ysgol/Ardal.
2. Rhoi gwybod i'r Goruchwylydd Ardal am unrhyw beth sy'n debygol o effeithio ar ei waith neu unrhyw beth y mae'n ystyried y dylai ef/hi fod yn ymwybodol ohono.
3. Gweithio ar y cyd â glanhawyr eraill yn yr ysgol
4. Cydymffurfio ag arferion iechyd a diogelwch y Cyngor, gan gynnwys COSHH
5. Cadw loceri storio, cypyrddau a pheiriannau mewn cyflwr glân a thaclus.
6. Defnyddio offer a deunyddiau glanhau yn y modd rhagnodedig, gan dderbyn cyfrifoldeb am yr offer a ddefnyddir a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio a'i storio'n ddiogel.
7. Cwblhau unrhyw waith papur gofynnol gan gynnwys taflenni amser.
8. Cyflawni unrhyw gyfarwyddiadau gwaith rhesymol eraill
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Mr Morris ar y rhif ffôn uchod neu e-bostiwch headteacher@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
mailbox@stmarys-overton-pri.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
DYDDIAD CAU: Dydd Llun 10 Chwefror 2025.