MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Llandinam)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Llandinam)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Gan weithio dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athro cyfrifol, cynorthwyo a chefnogi'r addysgu a'r dysgu, gan weithio gydag unigolion neu grwpiau a chynorthwyo i ddarparu ar gyfer gofal, diogelwch a lles cyffredinol y disgyblion.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio ar les unigolion neu grwpiau drwy helpu gydag asesu angen a chynnydd disgyblion, datblygu a gweithredu cynlluniau a rhoi cymorth i ddisgyblion ag anghenion arbennig/personol ychwanegol.
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Nid oes gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol o gwbl am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am adnoddau ffisegol, drwy baratoi deunyddiau/adnoddau addysgu a gofalu amdanynt a chadw cofnodion diogel a chywir. Mae'r canlynol yn ychwanegol at ddyletswyddau a chyfrifoldebau nodweddiadol Cynorthwyydd Addysgu 1 Cynradd/Uwchradd

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS