MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
Goruchwyliwr Canol Dydd (Ysgol Dolafon)Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Goruchwylio disgyblion yn ystod amser cinio a sicrhau eu diogelwch a'u lles.
2. Yn gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Oruchwyliwr Canol Dydd neu rywun dynodedig arall sy'n gyfrifol.
3. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio rywfaint ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch). Gallai hyn gynnwys bodloni anghenion disgyblion wrth fynd i'r toiled e.e. newid cewynnau/padiau a symud/cario a chodi cysylltiedig. Gallai hyfforddiant priodol a
ddilynir gynnwys rhoi meddyginiaeth, defnyddio EpiPen etc.
4. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
5. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
6. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin a defnyddio offer yn ofalus.
- Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS