MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Clerc / Gweinyddwr - Cyllid Lefel 2 (Generig) (Ysgol Llandinam)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
Clerc / Gweinyddwr - Cyllid Lefel 2 (Generig) (Ysgol Llandinam)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Yn gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad cyffredinol, yn gwneud tasgau gweinyddu ariannol sy'n bennaf yn rhai rheolaidd, ac yn gweithio dan weithdrefnau sefydledig, ond yn blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun. Yn cyfeirio problemau cymhleth am i fyny. Rôl ymatebol yw hon yn bennaf ond mae angen mentro rhywfaint. Mae angen hyfforddiant penodol yn y swydd neu brofiad
perthnasol blaenorol, yn ogystal â chyfnod cynefino byr.
Gellid galw'r swydd yn gynorthwyydd cyllid.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â'r Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill, os o gwbl, er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am drin arian, prosesu sieciau, anfonebau neu bethau tebyg, ac mae'n atebol am hyn, neu mae'n atebol am gyllideb fechan.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel
- Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS