MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
Goruchwyliwr Arholiadau (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Sicrhau bod yr arholiadau/profion yn cael eu cynnal yn unol â'r rheolau a'r rheoliadau y mae'r cyrff dyfarnu yn eu gosod. Gweithio dan gyfarwyddyd y swyddog arholiadau neu uwch aelod o'r staff addysgu.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio i raddau ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch)
Cyfrifoldeb am staff: Nid oes unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol (neu ychydig iawn o gyfrifoldeb uniongyrchol sydd) am oruchwylio aelodau eraill o staff er efallai bod disgwyl i'r swyddog ddangos sut i gyflawni tasg neu gynghori/gyfarwyddo gweithwyr newydd, hyfforddeion, neu bobl ar brofiad gwaith.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Nid oes unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol (neu ychydig iawn o gyfrifoldeb uniongyrchol sydd) am adnoddau ariannol, ar wahân i drin symiau bychain o arian, prosesu sieciau, anfonebau ac ati o bryd i'w gilydd.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Nid oes unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol (neu ychydig iawn o gyfrifoldeb uniongyrchol sydd) am adnoddau ffisegol, ar wahân i allu trin a defnyddio cyfarpar e.e. cyfrifiadur/llungopïwr yn ddiogel, papurau profion/arholiadau