MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Y Clwb Brecwast (Ysgol Ffordun)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr

Cynorthwyydd Y Clwb Brecwast (Ysgol Ffordun)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel rhan o dîm, goruchwylio'r plant a sicrhau eu diogelwch a'u lles a darparu gofal priodol iddynt yn ystod amseroedd y clwb o dan gyfarwyddyd Arweinydd y Clwb Brecwast.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur).

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS