MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Penygelli

Heol Glyndwr

Wrecsam

Ffôn: 01978 722160

Pennaeth mewn gofal: Sean Wade

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Anthony Wedlake

Nifer ar y Gofrestr:228 a 27 yn y Meithrin

PENNAETH

I ddechrau Medi'r 1af, 2025

Arweinyddiaeth L13 - L19

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Penygelli yn gwahodd penaethiaid ac ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd pennaeth.

Mae gennym ddisgyblion uchel eu cymhelliant, staff ymroddedig, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar.

Mae'r ysgol yng Nghoedpoeth sydd tua milltir a henner o gyffordd 4 o'r A483.

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi pennaeth brwdfrydig a gweledigaethol gyda sgiliau arwain rhagorol ac ymrwymiad ac awch i gynnal safonau a lefelau cyrhaeddiad uchel.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

• ddangos arweinyddiaeth gref a deinamig

angerdd cryf dros addysgu a dysgu

perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid

hyrwyddo safonau cyflawniad uchel.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio o Ionawr 10fed ymlaen. I gael mwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad ar gyfer ymweliad cysylltwch â'r pennaeth yn yr ysgol.

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol.

Mae angen cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

I ymgeisio: lawrlwythwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y dudalen we www.wrexham.gov.uk/jobs neu e-bost hrservicecentre@wrexham.gov.uk

DYCHWELWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR ar e-bost

HEATHER OWEN, CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR trwy ebost at

robertsc1164@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Noder bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: 18:00 ar Ionawr 24ain 2025

PROSES GYFWELD YN CYCHWYN: w/c Chwefror 10fed 2025

CYFWELIADAU: w/c Chwefror 17eg 2025