MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Disgrifiad
Adran yr Economi a Chynllunio
Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Amddiffyn yr Amgylchedd)
37 awr yr wythnos,
Gradfa £40,476 - £43,693 y flwyddyn
Croeso i Wrecsam!
Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae Wrecsam yn lle bywiog wedi'i amgylchynu gan bentrefi gwledig ac yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte. Mae tref Wrecsam wedi derbyn statws Dinas yn ddiweddar, ac mae llawer o fentrau adfywio ar waith yma.
Mae'r swydd wag hon o fewn gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd sy'n rhan o'r tîm Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai, sy'n cynnwys amddiffyn yr amgylchedd (rheoli llygredd, ansawdd aer, niwsans statudol ac ati) a safonau tai (tai sector preifat). r Cyngor yn chwilio am Swyddog Iechyd yr Amgylchedd brwdfrydig, llawn cymhelliant, sydd â phrofiad ymarferol o waith amddiffyn yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus. Mae gwybodaeth am gyflwyno rhybuddion, trefnu bod gwaith yn cael ei wneud yn niffyg camau gweithredu priodol a pharatoi ffeiliau achos ar gyfer erlyn yn hanfodol. Mae gwybodaeth arbenigol a phrofiad o un neu fwy o'r meysydd gwaith (ansawdd aer, trwyddedau amgylcheddol, acwsteg, niwsans statudol) yn ddymunol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar BSc/BSc (Anrh) mewn Iechyd yr Amgylchedd neu Ddiploma mewn Iechyd yr Amgylchedd neu gymhwyster cydnabyddedig cyfwerth, yn cynnwys EHRB. Bydd ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr sydd â chymhwyster achrededig mewn Iechyd yr Amgylchedd ac sy'n gweithio tuag at gofrestru fel Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn cael eu hystyried. Mae statws siartredig a'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Bydd y Cyngor yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus ac yn eich annog i chwarae rôl allweddol yn natblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol.
Rydym yn cynnig lwfans car ar gyfer defnydd achlysurol ac yn gweithredu cynllun Cydbwysedd Bywyd a Gwaith. Gan fod gweithio hyblyg yn rhan o drefniadau'r gwasanaeth, mae yna hyblygrwydd yn y ffordd y caiff gwaith ei wneud (gweithio'n hyblyg, gweithio o amryw o leoliadau, gweithio gartref, gweithio symudol ac ati). Mae'r Tîm wedi symud yn ddiweddar i swyddfeydd sydd wedi'u hadnewyddu'n llwyr gan gynnig amgylchedd gwaith modern ac eang.
Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon cysylltwch â Toby Zorn, Arweinydd Tîm, Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Tai, ar 01978 297426 neu toby.zorn@wrexham.gov.uk
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg