MANYLION
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teachers Main Scale & SEN2
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Welsh Specialist Teacher of Specific and General Learning Difficulties
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Teachers Main Scale & SEN2
Welsh Specialist Teacher of Specific and General Learning DifficultiesDisgrifiad Swydd
Athro Arbenigol disgyblion ag Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol (Llythrennedd a Rhifedd)
Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans SEN2
Dyddiad Dechrau: 06/01/25
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi Athro Cymraeg Arbenigol sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol o ddisgyblion gydag Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol ledled RhCT. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi model darparu Gwasanaeth Cynnal Dysgu i ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth o ran ymyrraeth a chyngor i ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion unigol ag Anawsterau Dysgu Penodol a Chyffredinol.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Penodol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus sydd ddim wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Gwasanaeth Cymorth Dysgu, Canolfan Menter y Cymoedd, Parc Hen Lofa’r Navigation, Abercynon, CF45 4SN ar 01443 744333
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Sul 13 Hydref 2024 am hanner nos
Mae modd gweld y ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y swydd ar wefan Recriwtio'r Cyngor.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.
YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.