MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Disgrifiad
G06 £26,421 - £27,803 Y flwyddyn
37 awr yr wythnos.
Dros dro tan 31/03/25 (contract dros dro oherwydd cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru)
Mae Dechrau'n Deg Wrecsam yn fenter Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2007. Mae'r fenter yn gyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i blant dan 4 oed, a'u teuluoedd, sy'n byw yn yr ardaloedd yn Wrecsam sydd â'r angen mwyaf am gefnogaeth.
Mae swydd newydd wedi'i chreu ar gyfer Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata i ymuno â Thîm Dechrau'n Deg Wrecsam. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol cyfeillgar ac arloesol o weithwyr proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Wrecsam. Bydd y sawl a benodir yn gweithio'n benodol i Gydlynydd a Rheolwyr y gwasanaeth ac yn cefnogi'r Tîm Amlddisgyblaethol ehangach.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at dwf a datblygiad marchnata digidol a dulliau eraill o gyfathrebu a marchnata yng Ngwasanaeth Dechrau'n Deg Wrecsam. Mae hynny'n cynnwys creu deunydd graenus ar gyfer gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, blogiau, apiau a llwyfannau digidol eraill i hyrwyddo amryw ymgyrchoedd marchnata a gwasanaethau, yn ogystal â llunio deunydd ar gyfer cyfryngau mwy traddodiadol fel papurau newydd a chylchgronau. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu ysgrifennu deunydd ffres a bywiog a chreadigol a bod yn weithiwr proffesiynol hyderus sydd yn fedrus iawn wrth ddefnyddio pecynnau gwaith a meddalwedd marchnata creadigol a dadansoddol ac yn gyfathrebwr da.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio âm Cyfryngau Creadigol a Digidol wrth ddylunio a chynhyrchu deunydd cyfathrebu graenus ac effeithiol ar gyfer papurau newydd a chylchgronau a phob cyfrwng digidol, a sicrhau bod yr holl ddeunydd a grëir yn cydymffurfio â chanllawiau brand CBSW, canllawiau brand Llywodraeth Cymru a Safonau'r Gymraeg a safonau hygyrchedd a'r we.
Bydd rhaid i ddeiliad y swydd ddarparu cyngor a chymorth ynglÅ•n â hygyrchedd i Reolwyr a staff Dechrau'n Deg o safbwynt yr arferion gorau wrth ddylunio a chreu cynnyrch digidol, gan sicrhau bod staff yn gwybod bod yn rhaid i ddeunydd digidol gydymffurfio â gofynion hygyrchedd a chanllawiau deunydd y we, er mwyn sicrhau bod cynnyrch digidol yr awdurdod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob defnyddiwr.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster perthnasol a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a bydd ganddynt y wybodaeth a'r profiad o ddylunio sawl llwyfan digidol megis cyfryngau symudol a chymdeithasol a rhaid iddynt fod yn hyderus yn defnyddio
Os ydych chi'n berson brwdfrydig, trefnus, hyblyg ac yn gallu ymroi i wneud gwahaniaeth i deuluoedd yn Wrecsam, fe hoffem glywed gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicki Sadowska, Rheolwr Cymorth i Deuleodd a Rhianta Dechrau'n Deg ar 01978 298300.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.