MANYLION
  • Lleoliad: Rhadyr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £75,756
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyfarwyddwr Data a Chyllid

Coleg Gwent

Cyflog: £75,756

Cyfarwyddwr Data a Chyllid
Swydd ddisgrifiad
Yng Ngholeg Gwent, mae ein cenhadaeth yn syml: NEWID BYWYDAU TRWY DDYSGU. Rydym yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein myfyrwyr, ein staff a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein cynnig addysg a hyfforddiant yn eang ac amrywiol, gan gwmpasu Addysg Bellach, Addysg Uwch a phrentisiaethau, ar draws pum campws ysbrydoledig, llawn offer. Mae gennym ni brosiectau cyffrous pellach ar y gweill, gan gynnwys ein canolfan Hive newydd ar gyfer peirianneg uwch ac ailddatblygu ein campws yn ninas Casnewydd. Mae'r Coleg yn flaengar ac yn ddeinamig ac os ydych am wneud gwahaniaeth, dyma'r lle i wneud hynny.

Mae’n amser gwych i ymuno â’r coleg wrth i ni symud tuag at ddyfodol newydd cyffrous o dan arweiniad ein Pennaeth newydd. Mae hon yn rôl newydd, wedi'i dylunio i ddyrchafu swyddogaethau Systemau Busnes a MIS, gan sicrhau arfer gorau yn y meysydd hyn.

Fel ein Cyfarwyddwr Data a Chyllid newydd, chi fydd yr arweinydd strategol o ran casglu a defnyddio gwybodaeth i ddarparu cymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau a mesur perfformiad ar draws y coleg. Gan adrodd i'r Is-Bennaeth (Adnoddau a Chynllunio), mae hwn yn gyfle gwych i reoli pob agwedd ar ein systemau MIS a darparu persbectif newydd i sicrhau gwelliant pellach.

Fel aelod o’r Uwch Dîm Arwain, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru perfformiad y coleg yn ei flaen a sicrhau bod y coleg yn y sefyllfa orau i gyflawni ein cynllun strategol newydd. Yn ogystal â siapio'r systemau adrodd presennol i wella cyflawniadau'r coleg ymhellach, bydd y Cyfarwyddwr Data a Chyllid yn arwain a datblygu gweithlu dawnus, llawn cymhelliant ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y coleg.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o reoli systemau gwybodaeth, ychwanegu gwerth at systemau data a gwybodaeth gadarn am ddata a chydymffurfiaeth. Yn rheolwr cryf, byddwch yn cael y gorau o'ch timau ac yn darparu diwylliant cefnogol a datblygiadol. Bydd gennych y gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr ar draws y coleg a chyda rhanddeiliaid allanol.

Mae’r Coleg yn cynnig llawer o fuddion cyflogaeth gan gynnwys hawl gwyliau hael, cynllun pensiwn a llawer o fuddion a chyfleusterau ar y safle. O fewn cyrraedd hawdd i goridor yr M4, mae ein campysau wedi’u lleoli o fewn cyrraedd i rai o gefn gwlad harddaf De Cymru.

Dyddiad Cau - 29/09/24

I wneud cais, ewch i:

https://www.aoc.co.uk/recruitment/current-opportunities/director-of-funding-and-data