MANYLION
  • Lleoliad: Chepstow, Monmouthshire, NP16 6RN
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2024 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Dysgu - Lefel 3, Ysgol Drenewydd Gelli-farch

Cyngor Sir Fynwy
Mae cyfle wedi codi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol; y cyfle i ddod yn rhan o dîm
hynod effeithiol.

Rydym yn chwilio am ymarferydd ysbrydoledig sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i
brofiadau bywyd plant.

Bydd gennych ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad; yn herio pob plentyn i
gyflawni ei orau personol. Gyda’ch egni a’ch ymrwymiad i fynd y ‘filltir ychwanegol’,
byddwch yn llywio dyfodol ein hysgol mewn cytgord â’n hethos a’n gweledigaeth.
Rydych chi'n credu mewn gwelliant parhaus i chi'ch hun fel ffordd o gyflawni'r gorau oll i
blant a theuluoedd ein cymuned.

Ein gweledigaeth yn Drenewydd Gelli-farch yw Dysgu Gyda'n Gilydd | Cyflawni am
Oes. Bydd eich rôl yma yn rhan annatod o ddod â'r weledigaeth yn fyw. Fel
Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3, bydd eich swydd yn amrywiol a diddorol! Bydd angen i'r
ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg i weithio ar draws yr ysgol - o gefnogi disgyblion
yn y dosbarth; i weithio gyda hwy mewn grwpiau bach; ar sail un i un, ac yn cyflenwi
goruchwyliaeth pan fo angen. Byddai cymhwyster Cymorth Cyntaf a Gwaith (3 diwrnod)
yn ddefnyddiol iawn, neu ymrwymiad i ennill y cymhwyster.