MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes Celf (Cyfnod mamolaeth)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Morgan Llwyd

Pennaeth: Miss Catrin Pritchard

Athro / Athrawes Celf (Cyfnod mamolaeth)

Amrediad Cyflog - Yn unol a graddfa gyflog athrawon

Llawn amser

01/09/24 - 31/05/25

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Celf dros gyfnod mamolaeth o'r 1af o Fedi hyd ddiwedd Mai, 2025. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Celf i ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9, gyda'r posibilrwydd o ddysgu gwersi TGAU a Lefel A yn ddibynnol ar ddymuniad a phrofiad yr ymgeisydd. Croesawir ceisiadau gan athrawon sydd wedi eu cymhwyso i ddysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.

Mae hon yn swydd llawn amser i ddechrau ym Medi 2024 ac yn gorffen ar y 31ain o Fai, 2025. Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.

Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar owenr350@hwbcymru.net neu ffoniwch 01978 315050.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a'i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar y 19eg o Fehefin, 2024.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyrcymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).

Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 12:00 y.p ar y 19eg o Fehefin, 2024