MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref a Chyflogaeth Plant - Mewnol yn Unig

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Mewnol yn Unig

MPR / UPR

Yn ystod y tymor yn unig 39 wythnos

Lleoliad - Noddfa, Lôn Dodds, Gwersyllt. LL11 4NT

37 awr yr wythnos, Cyfle Secondiad hyd at Y Pasg 2025

Mae'r gwasanaeth Ymyrraethau am benodi unigolyn brwdfrydig iawn ar gyfle secondiad i arwain ar Addysg Ddewisol yn y Cartref a Chyflogaeth Plant o fewn yr Adran Addysg.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn athro/awes cymwysedig profiadol, sydd â dealltwriaeth dda o brosesau ADY a phrofiad ac ymwneud uniongyrchol â chymell plant a phobl ifanc a allai fod wedi cael anawsterau yn mynychu'r ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau statudol a deddfwriaeth a bod plant sy'n cael eu haddysgu'n ddewisol yn y cartref yn Wrecsam yn cael addysg briodol a bod cymorth ac arweiniad yn cael eu darparu gan gynnwys sefyll arholiadau lle bo'n briodol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos empathi ac amynedd a chynnal ac adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn gadarnhaol â'r gymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn goruchwylio cyflogaeth plant o fewn yr Awdurdod Lleol gan sicrhau y cedwir at ganllawiau a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau diogelu. Bydd hyn yn cynnwys rhoi trwyddedau perfformiad plant a hawlenni.

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.