MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Cleirwy)

Cyngor Sir Powys
Goruchwyliwr Canol Dydd (Cynradd) (Ysgol Eglwys yng Nghymru Cleirwy)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Corff Llywodraethu a Phennaeth ein Hysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Cleirwy sy'n ofalgar a chyfeillgar am benodi unigolyn positif a brwdfrydig yn oruchwyliwr canol dydd. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio'r plant wrth iddyn nhw fwyta dros egwyl amser cinio yn y neuadd, annog chwarae egnïol, goruchwylio chwarae yn ystod egwyl amser cinio ar ein tiroedd hyfryd a sicrhau lles a diogelwch disgyblion. Mae'r swydd am 1 awr 10 munud y dydd, (6 awr yr wythnos), 5 egwyl amser cinio yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig, gan ddechrau cyn gynted â phosibl.

Byddai profiad blaenorol o weithio gyda phlant yn fantais a disgwylir gwybodaeth am gymorth cyntaf sylfaenol. Mae sgiliau rhyngbersonol da , ynghyd â ' r gallu i fod yn ddigynnwrf a chyfeillgar mewn ymateb i ymholiadau gan y plant yn hanfodol, yn ogystal â gallu meithrin perthnasoedd rhagorol gyda ' n plant a'n staff addysgu. Bydd angen i chi fod yn barod i ddysgu ac i wneud hyfforddiant. Holwch yn yr ysgol ar 01497 820860 neu anfonwch e-bost am fwy o fanylion: office@clyro.powys.sch.uk

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £12.00 yr awr.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS