BETH YW SWYDDOG IECHYD A LLES?
Rydym yn cydnabod y gall sefyllfaoedd sy’n effeithio ar yr emosiynau, neu bryderon am iechyd meddwl, amharu ar addysg ein dysgwyr. Ac mae pandemig Covid-19 wedi’n gwneud yn fwy ymwybodol fyth o bwysigrwydd lles ein dysgwyr.
Rydym yn gofalu’n fawr am ein dysgwyr ac yn deall bod cefnogi eu hiechyd a’u lles yn eu helpu i ennill cymwysterau a symud ymlaen i waith ac astudiaethau pellach.
Rydym yn darparu cyngor, cymorth ac arweiniad pwrpasol i ddysgwyr ar faterion iechyd a lles. Nid oes unrhyw broblem sy’n rhy fawr nac yn rhy fach!
Rydym yn sicrhau bod gwasanaethau iechyd a lles yn cael eu hyrwyddo a’u darparu’n gyson ar draws ein sefydliad er mwyn datblygu hyder, gwytnwch a gwybodaeth dysgwyr fel y gallant ymdopi â’u hastudiaethau a bywyd bob dydd ar draws pob math o ddarpariaeth.
Rydym yn datblygu ac yn cynnal gwaith partneriaeth effeithiol â gwasanaethau iechyd a lles lleol, timau cymorth cynnar/ymyrraeth gynnar, a phartneriaid cymunedol eraill, er mwyn sicrhau cymorth, cyfeirio, atgyfeiriadau ac ymyriadau amserol ac effeithiol sy’n arwain at ddeilliannau llwyddiannus i ddysgwyr.
LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL
Gall y rhain gynnwys:
- Cymhwyster diweddar mewn maes sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles, fel gofal cymdeithasol, nyrsio neu gwnsela
- Profiad blaenorol o weithio ag oedolion ifanc mewn lleoliad addysg
SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL
- sgiliau cyfathrebu cryf
- amynedd, sensitifrwydd a phwyll
- sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
- sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
- sgiliau mentora a hyfforddi
- hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
- sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
- ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
- ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.