- Caru Darllen Prifysgol Caerdydd
- Caerdydd
- Cymru Gyfan
- CF10 3AS
Rhowch hwb i’r Cymhelliant i Ddarllen yn eich Ysgol Gynradd: Cyfle Dysgu Proffesiynol
Yn ystod y tymor yr hydref hwn mae’r Prosiect Caru Darllen yn cynnig rhaglen ddysgu broffesiynol ar-lein am ddim, er mwyn cefnogi athrawon i hybu’r ymgysylltiad â darllen a’r cymhelliant i ddarllen mewn ysgolion cynradd. Ariennir Caru Darllen gan Lywodraeth Cymru ac fe’i darperir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor.
Archebwch eich lle ar un o’r sesiynau dysgu Caru Darllen.
Beth ydyw?
Bydd Gweld y Byd Trwy Lens Ddarllen, sef prif weithdy hyfforddi ar-lein Caru Darllen, yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu gwybodaeth o sut i feithrin y cymhelliant i ddarllen ac ymgysylltu â darllen ymhlith dysgwyr blynyddoedd 4-6, yn ogystal â’r strategaethau ymarferol ar gyfer gwneud hynny. Bydd sesiwn graidd i athrawon ac ymarferwyr ysgol, a sesiwn graidd wedi’i hanelu at uwch arweinwyr mewn ysgolion.
Wrth gymryd rhan yn y sesiwn graidd, bydd y Ddewislen Dysgu Caru Darllen ar Hwb yn dod yn hygyrych i gyfranogwyr, sy’n cynnwys sesiynau dewisol pellach ac adnoddau dysgu hunan-dywys y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.
A yw'r rhaglen ddysgu proffesiynol yn ddwyieithog?
Mae’r rhaglen ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg – mae dyddiadau gwahanol ar gael ar gyfer y ddwy iaith.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Mae’r rhaglen ddysgu ar gael am ddim i holl staff addysgu ysgolion cynradd yng Nghymru, gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgol.
Sut y gallaf gymryd rhan?
Gallwch archebu lle ar un o'r sesiynau craidd sydd ar gael drwy ddefnyddio'r ddolen hon. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r gweithdy craidd, bydd y Ddewislen Dysgu Caru Darllen lawn yn hygyrch i chi.
Gall lleoedd fod yn gyfyngedig.
Gallwch gael mwy o wybodaeth yn y ddogfen atodedig.
Gallwch gysylltu â ni yn LoveReading@cardiff.ac.uk os hoffech gael rhagor o wybodaeth.