BETH YW PRIFATHRO?

Fel prifathrawon, ein gwaith ni yw arwain a rheoli staff a dysgwyr yn effeithiol gyda hyder rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach. Gall ein swydd drawsnewid bywydau trwy ddarparu cyfleoedd dysgu sy'n galluogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr effeithiol i'r gymdeithas ehangach.

Rydym yn arwain gyda thrugaredd, hyder a gwytnwch, gan ysgogi ac annog ein staff i wneud yr un peth. Ein cyfrifoldebau yw goruchwylio’r ysgol o ddydd-i-ddydd.

Rydym yn aml yn rhannu'r dyletswyddau hyn â phenaethiaid cynorthwyol neu ddirprwy benaethiaid er mwyn cyflawni'r canlyniadau dysgu gorau posib ar gyfer pawb.

I sicrhau hyn, rydym yn monitro perfformiad dysgwyr a'r ysgol i adnabod meysydd y mae angen eu gwella, ac yn rhannu'r canlyniadau gyda llywodraethwyr, yr awdurdod lleol, consortia, Estyn, ymwelwyr, rhieni a gofalwyr.

Rydym hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am gyllid yr ysgol, gan ddefnyddio adnoddau’n effeithiol i sicrhau bod yr adeiladau a’r tiroedd yn cael eu cynnal i safon uchel a’u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Yn fwy na dim, rydym wedi ymrwymo i adeiladu tîm ymroddedig ac ysbrydoledig i'n helpu i gyflawni gweledigaeth ein hysgolion.

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Rhaid bod gan brifathro brofiad fel athro, felly bydd angen Statws Athro Cymwysedig (SAC) neu gyfwerth arnynt, trwy addysg gychwynnol i athrawon (AGA) a fydd angen iddynt fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus. Unwaith eu bod yn athro profiadol, bydd y mwyafrif o benaethiaid wedi symud ymlaen i fod yn ddirprwy neu'n bennaeth cynorthwyol. Yna, bydd angen iddynt ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) cyn dod yn brifathro. Unwaith eu bod yn athro profiadol, bydd y mwyafrif o brifathrawon wedi symud ymlaen i fod yn ddirprwy neu'n bennaeth cynorthwyol. Wedyn, bydd angen iddynt ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (NPQH) cyn dod yn bennaeth.

Chwilio darparwyr cymwysterau yma

 

SGILIAU DYMUNOL
  • annog, cymell ac ysbrydoli disgyblion a staff
  • cyfathrebwr rhagorol
  • yn amyneddgar ac yn gallu defnyddio disgresiwn
  • hybu'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
  • trefnydd a chynlluniwr effeithiol
  • y gallu i weithio'n effeithiol o dan bwysau
  • arweinydd a rheolwr strategol effeithiol
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae'r cyflog a amlinellir isod wedi'i fwriadu fel canllaw.
Ystod cyflog:
£47735
-
£117197