BETH YW PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL?
Fel Prif Swyddogion Gweithredol, ni yw wyneb y sector Addysg Bellach, yn cynrychioli ein sefydliadau mewn digwyddiadau mewnol ac allanol, ac yn sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn arweinwyr yn y maes, yn cael ein cymell gan ein dilysrwydd, ac mae diogelwch dysgwyr a lles staff wrth wraidd ein holl weithredoedd.
Yn gyfarwydd gyda goresgyn heriau, rydym yn weithlu gwydn. Rydym yn sicrhau cydymffurfiad gyda deddfwriaeth a gweithdrefnau addysgiadol ac yn arwain ar strategaeth, cynllunio, rheolaeth a darpariaeth cyrsiau a chymwysterau a fydd yn ysbrydoli unigolion i fod yn uchelgeisiol.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd a'r uwch dîm arwain i ddarparu sefydlogrwydd ariannol a chwricwlwm hygyrch, perthnasol i bob dysgwr, dim ots pwy ydyn nhw na beth maen nhw am ei gyflawni.
Mae hynny'n golygu bod ein swydd yn ymwneud â darparu mynediad i gyfleoedd addysgol a hyfforddiant cynhwysol sydd o ansawdd uchel i ddysgwyr, er budd eu dyfodol yn yr hirdymor.
Y CYMWYSTERAU BYDD ANGEN ARNOCH
Yn nodweddiadol, byddai disgwyl i Brif Swyddog Gweithredol feddu ar radd, yn ogystal â thystysgrif addysg ôl-raddedig.
DISGWYLIADAU CYFLOG
Mae cyflogau Prif Swyddog Gweithredol yn amrywio'n sylweddol, yn dibynnu ar faint, cymhlethdod, daearyddiaeth ac incwm y sefydliad.