MANYLION
  • Lleoliad: Llangybi Language Centre, Pwllheli,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4, Canolfan Iaith Llangybi

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd


Canolfan Iaith Llangybi


Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4



Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig, sy'n meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle arbennig i weithio hefo plant sy'n mynychu uned Iaith i ddysgu Cymraeg. Dan arweiniad yr athrawes bydd y cymhorthydd yn cefnogi plant i fwynhau dysgu'r iaith Gymraeg trwy weithgareddau diddorol ac arloesol.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £18,608 - £20,262 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r Gyfundrefn yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â Mr Rhys Meredydd Glyn (Rhif ffôn 07436055587).

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD IAU, 7FED O FAWRTH, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

CYNGOR GWYNEDD
MANYLION PERSON

TEITL Y SWYDD: Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4

ADRAN: Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd

GWASANAETH: Addysg

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
  • Personoliaeth ddigynnwrf, amyneddgar a hyblyg.
  • Parodrwydd i ddysgu'n barhaus
  • Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd
  • Person hunanysgogol gyda'r gallu i weithio'n annibynnol.
  • Sgiliau cyfathrebu da a chadarn
  • Person brwdfrydig
  • Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc


CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL

  • Gallu arddangos arfer effeithiol a pharhaus yn y disgrifyddion perthnasol o fewn 'safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu'.
  • NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth
  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
  • Hyfforddiant Amddiffyn Plant


DYMUNOL
  • Hyfforddiant Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu - 'Darpar CALU'
  • Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu- 'Staws CALU'
  • Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.


PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL
  • Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant a phobl ifanc
  • Profiad o arwain a chynllunio gwaith grŵp a gwaith dosbarth cyfan
  • Profiad o weithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau
  • Profiad o reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.


DYMUNOL
  • Profiad o reolaeth llinell staff
  • Profiad o weithio gyda theuluoedd


SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
  • Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
  • Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysg plentyn.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Deall fframweithiau statudol perthnasol i addysg
  • Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
  • Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.
  • Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.


ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Teitl y Swydd: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4

CANOLFAN IAITH LLANGYBI

Dyddiad y Swydd Ddisgrifiad: Mawrth 2022

Graddfa Cyflog: S1 22-25

Atebol i Swydd :Pennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi

Adran: Addysg

Gwasanaeth: Ysgolion

Lleoliad: Uned Iaith Llangybi LL53 6DG

2 Pwrpas y Swydd.

Dan gyfarwyddyd Athro y Ganolfan Iaith, cefnogi unigolion a grwpiau o ddysgwyr sy'n newydd ddyfodiaid i Wynedd i ddysgu Cymraeg. Mae ystod oed y dysgwyr rhwng blwyddyn 2 a blwyddyn 4

Prif Ddyletswyddau..

Cefnogaeth i Ddysgwyr
  • Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r dysgwyr, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
  • Rhoi sylw i anghenion personol dysgwyr a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Cefnogi dysgwyr yn gyson gan adnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
  • Annog y dysgwyr i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
  • Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
  • Darparu adborth i ddysgwyr mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu grŵp o ddysgwyr.
  • Cefnogi'r dysgwyr yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
  • Darparu cefnogaeth ôl-ofal i'r dysgwyr wedi iddynt ddychwelyd i'w hysgolion.
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ADY, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol.
  • Hybu cynhwysiad pob disgybl.
  • Annog dysgwyr i gyd-adweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad athro.
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
  • Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi dysgwyr.
  • Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r dysgwyr ac ennyn disgwyliadau uchel.
Cefnogaeth i Athro y Ganolfan Drochi
  • Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
  • Monitro a gwerthuso ymatebion y dysgwyr i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw a chadw cofnodion dysgwyr ar gais Athro y Ganolfan Drochi
  • Cydweithio gydag Athro y Ganolfan Drochi i gynllunio a darparu gwasanaeth ôl-ofal i ddysgwyr.
  • Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill dysgwyr, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
  • Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
  • Cydweithio gyda Arweinydd y Ganolfan i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
  • Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i Athro y Ganolfan Drochi mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
  • Gweithredu polisi'r Ganolfan mewn perthynas â hybu ymddygiad dysgwyr ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Darparu cyfnod CPA i Athro.
  • Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, casglu arian, ffeilio, dosbarthu llythyrau i rieni, cynhyrchu taflenni gwaith ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
  • Ymwneud yn sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn unol â chyfarwyddyd Athro y Ganolfan Drochi
  • Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r dysgwyr, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y dysgwyr.
  • Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
  • Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh, asesu ar gyfer dysgu.
  • Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
  • Defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y dysgwyr wrth ei ddefnyddio.
  • Cynorthwyo dysgwyr i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
  • Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y dysgwyr.
  • Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
  • Pennu'r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cynnal a'u cadw.
  • Goruchwylio'r dysgwyr ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r Ganolfan Iaith.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r dysgwyr i'w defnyddio.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyffredinol
  • Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol/Ganolfan Iaith yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.


Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi