MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Coety

Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Coety

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Coety
Disgrifiad swydd
33.75 awr yr wythnos (40 wythnos y flwyddyn)

Mae'r Corff Llywodraethu am benodi Uwch Swyddog Gweinyddol rhagorol, rhagweithiol a llawn cymhelliant i weithio yn nhîm gweinyddol yr ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Coety yn ysgol arloesol, flaengar sy'n ceisio cyflogi person eithriadol i'r rôl Uwch-swyddog Gweinyddol.  Mae hwn yn gyfle cyffrous i weinyddwr llawn cymhelliant â hanes amlwg o weithio mewn swyddfa brysur.

credwn mewn disgwyliadau uchel, ymdeimlad o gydweithio, a brwdfrydedd cadarnhaol sy'n ennyn y gorau yn ein tîm.  Rydym yn buddsoddi mewn datblygu a dysgu proffesiynol er mwyn helpu ein tîm staff i greu amgylchedd llwyddiannus a diogel i'n plant a swyddfa ehangach yr ysgol.

bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Gallu gweithio'n gadarnhaol gyda'n plant, tîm staff, rhieni/gofalwyr a'r gymuned i sicrhau bod cymuned yr ysgol yn llwyddo;

Bod yn rhagweithiol, yn hyblyg ac yn chwaraewr tîm;

Croesawu dysgu proffesiynol ac yn barod i hyfforddi cydweithwyr eraill ac yn gallu gwneud hynny;

 disgwyliadau uchel o'u hunain, eraill, a bydd yn ymfalchïo yn eu rôl;

Gallu rheoli a blaenoriaethu llwyth gwaith a bodloni terfynau amser;

Meddu ar brofiad o weithio mewn ysgol a dealltwriaeth o Wybodaeth Reoli/Systemau Rheoli Ariannol SIMS;

Cyfrifoldeb am reoli'r dderbynfa a'r swyddfa yn effeithlon, gan gysylltu â rhieni, staff ac amrywiaeth o asiantaethau allanol;

Gallu gweithio yn ôl eu menter eu hunain;

Aelod gweithgar o'r tîm.

Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno ag Ysgol Gynradd Coety gan ein bod hanner ffordd drwy drawsnewidiad sylweddol. Mae'r uwch-swyddog gweinyddol yn rôl newydd yn ein strwythur a bydd yn aelod allweddol o dîm yr ysgol wrth symud ymlaen.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiadau allweddol ar gyfer gwneud cais:

Ymweliad ar gyfer darpar ymgeisydd:            Dydd Mercher 7 Mehefin

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau:         Dydd Mercher 14 Mehefin

Dyddiad llunio'r rhestr fer:                               Dydd Gwener 16 Mehefin

Dyddiad y cyfweliad:                                       Dydd Gwener 23 Mehefin

Rydym yn gwahodd darpar ymgeiswyr i gael taith o amgylch yr ysgol ddydd Mercher 7 Mehefin am 16:30.  Os hoffech ddod i'r ymweliad hwn, cysylltwch a chadarnhau eich presenoldeb gyda Mrs Rhian Phillips, Rheolwr Busnes yr ysgol, erbyn dydd Mawrth 6 Mehefin – 01656754990 neu anfonwch e-bost at adminmanager@coetyps.bridgend.cymru 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion sydd wedi'u cynllunio i ddenu, datblygu, a gwobrwyo ein gweithwyr – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Cliciwch yma i gael y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

I wneud cais am y swydd hon cliciwch 'Gwneud cais ar-lein’