MANYLION
  • Lleoliad: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cydlynydd Prosiect Mudiad Meithrin a Iechyd a Diogelwch

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Cydlynydd Prosiect Mudiad Meithrin a Iechyd a Diogelwch

Math o gontract: Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa: Graddfa G4 £24,477 (Pwynt 1) - £27,401(Pwynt 4) (heb gymhwyster NEEBOSH neu gyfwerth)*

Graddfa G5 £27,675 (Pwynt 1) - £30,832 (Pwynt 4) (gyda cymhwyster NEEBOSH neu gyfwerth)

* Bydd posibilrwydd i’r ymgeisydd llwyddiannus i dderbyn yr hyfforddiant perthnasol i weithio tuag at y cymhwyster)

Lleoliad: Hyblyg



Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.



Y Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson eiddgar, trefnus a brwdfrydig i ymuno ag Adran Prentisiaethau'r Urdd fel Swyddog Prosiect Prentisiaethau i weithio’n benodol ar Brosiect Prentisiaeth yr Urdd gyda Mudiad Meithrin.



Am fwy o fanylion, cliciwch yma am ddisgrifiad swydd neu cysylltwch â Catrin Davis (Rheolwr Prentisiaethau Cenedlaethol) neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau) ar 07966 403 394 neu gary@urdd.org / catrindavis@urdd.org



Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org



Dyddiad Cau – 26/07/2021

Dyddiad Cyfweld – I’w gadarnhau