MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £82,845 - £88,701
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Is-bennaeth Sgiliau Academaidd

Is-bennaeth Sgiliau Academaidd

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth ...

Teitl y Swydd: Is-bennaeth Sgiliau Academaidd

Lleoliad: Mae’r swydd hon yn cael ei lleoli ar draws bob safle

Math o Gontract: Parhaol/ Llawn Amser

Cyflog: £82,845 - £88,701

Mae’r swydd hon yng Ngholeg Cambria yn cymryd cyfrifoldeb dros y strategaeth twf a rheoli cyflwyno ein rhaglenni Addysg Uwch a Mynediad yn ogystal â chyflwyno Safon Uwch ar draws ein holl safleoedd. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad o reoli ac arwain a dealltwriaeth o’r dirwedd addysgol. Rhywun sydd wedi ymrwymo i’r lefelau uchaf o ansawdd, perfformiad a safonau ac sy’n gallu cydweithio gyda phartneriaid allweddol i dyfu’r ddarpariaeth cwricwlwm.

Darparu rheoli strategol a gweithredol rhagorol o’r Gyfarwyddiaeth trwy arwain a datblygu, cynllunio, cyflwyno a monitro cwricwlwm Safon Uwch ac AU a’r profiad myfyrwyr.

Bod yn gwbl atebol i'r Dirprwy Brif Weithredwr - Pennaeth i sicrhau bod y cwricwlwm yn bodloni anghenion cyflogwyr lleol; blaenoriaethau lleol a chenedlaethol; cynorthwyo’r cymunedau lleol; mynd i’r afael â phob grŵp oedran a gallu: bodloni targedau a osodwyd wrth gynllunio Cwricwlwm a Busnes; adnabod gofynion a chyfleoedd y dyfodol.

Datblygu a monitro cynlluniau strategol a chynlluniau gweithredu i fodloni gofynion cenedlaethol ar gyfer safonau ansawdd ar draws addysgu a dysgu. Ymateb i ofynion cyrff ansawdd allanol fel Estyn, Ofsted ac Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r colegwedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn
hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yrunigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal 22 a 23 Mehefin 2023.