MANYLION
  • Lleoliad: Llandeilo, Carmarthenshire, SA19 6PE
  • Pwnc: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 08 Chwefror, 2023 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Bro Dinefwr

Ysgol Bro Dinefwr
Dyddiad Dechrau: 1af Medi 2023

Mae’r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Pennaeth dynamig ac ysbrydoledig fydd yn parhau i godi ein dyheadau ac yn sicrhau cyfleoedd dysgu eithriadol cyson i’r myfyrwyr i gyd. Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am berson proffesiynol ymrwymedig sy’n meddu’r profiad o gynyddu a chynnal perfformiad a chodi a chynnal safonau ar gyfer pob aelod o gymuned yr ysgol.

Lleolir Ysgol Bro Dinefwr yn Nyffryn Tywi ogoneddus ac mae’n gwasanaethu ardal o draddodiadau amaethyddol a diwydiannol a’r gymuned ddawnus sydd yno. Mae iddi leoliad delfrydol sy’n llai nag awr o Ogledd-orllewin Abertawe gyda chysylltiadau trafnidiaeth dda.

Mae’r llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy’n:
 Arweinydd gyda hanes profedig o godi cyrhaeddiad a sicrhau’r cynnydd gorau oll i fyfyrwyr;
 Meddu’r weledigaeth, gwybodaeth, profiad a sgiliau i arwain yr ysgol Categori 2B boblogaidd hon;
 Adeiladu ar y cryfderau cyfredol a datblygu ymhellach botensial disgyblion a staff;
 Bod yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad;
 Meddu’r gallu i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd disgyblion a staff; a
 Bod yn agos-atoch, gyda’r sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)

Rhestr Fer: Ddydd Llun, 13eg Chwefror 2023

Cyfweliadau: Dydd Llun a Dydd Mawrth, 13eg a 14eg Mawrth 2023

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â: Cyng. Edward Thomas, Cadeirydd y Corff Llywodraethol EGThomas@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen isod i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud cais am y swydd hon.