MANYLION
  • Lleoliad: Queensferry, All Wales, CH5 1SX
  • Testun: Cynghorydd Gyrfa
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £27,539.00 - £33,171.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant

Rydym yn recriwtio Cynghorwyr Gyrfa cymwysedig a than hyfforddiant

Gyrfa Cymru
Allwch chi ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?

Ydych chi eisiau cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac economi Cymru yn y dyfodol?

Ydych chi eisiau gweithio i sefydliad cenedlaethol proffesiynol, modern ac arloesol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?

Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cyfarwyddyd i bobl o bob oed sy'n cefnogi pobl ifanc mewn addysg a chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Ni yw'r unig sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd. Mae gan ein cynghorwyr angerdd tuag at helpu pobl i gyflawni eu potensial.

Fel rhan o'r rhaglen Cymru'n Gweithio, mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion i gynnig cymorth asesu a chyfarwyddyd i'w helpu i ymuno neu ailymuno â'r farchnad lafur. Maent yn gweithio gydag ystod o grwpiau cwsmeriaid, gan gynnwys y rhai sy'n ddi-waith yn y tymor hir a'r tymor byr, y rhai sy'n economaidd anweithgar, pobl â rhwystrau iechyd ac anabledd a'r rhai sy'n ceisio newid eu gyrfaoedd. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys darparwyr hyfforddiant, canolfannau gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau proffesiynol eraill i gefnogi eu cwsmeriaid i gael addysg, hyfforddiant a gwaith cynaliadwy.

Mae'r cynghorwyr yn defnyddio ystod o offer a sgiliau i gefnogi'r gwaith a wnânt ac mae hyn yn amrywio o gefnogaeth un i un, cyflwyno sesiynau rhyngweithiol i grwpiau yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd i gyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio ystod o dechnolegau digidol.

Os hoffech gael yr her o weithio gyda phobl ifanc ac oedolion o bob gallu a chefndir yn y farchnad lafur, os ydych yn gallu eu cymell a'u hysbrydoli i gyflawni eu nodau, ac yn gallu sefydlu perthynas effeithiol gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, yna hoffem glywed gennych.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â chefndir mewn gweithio gyda:

• addysg a hyfforddiant;
• sectorau iechyd, gofal cymdeithasol neu gymorth anabledd;
• oedolion sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur ac;
• oedolion neu bobl ifanc o grwpiau ethnig lleiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swyddi gwag yma felly croesawn geisiadau gan ymgeiswyr sydd yn gallu gweithio yn ddwyieithog i gefnogi anghenion ein cwsmeriaid.

Mae'n ofynnol i chi deithio yng Nghymru ac yn achlysurol yn y DU er mwyn cyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drefniadau trafnidiaeth digonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau a/neu fynychu digwyddiadau dysgu a datblygu.

Rhaid i Gynghorwyr Gyrfa cymwysedig feddu ar gymhwyster Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa Lefel 6 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCC neu cymhwyser cyfatebol) a bod yn gymwys i ymuno â Chofrestr Ymarferwyr y Sefydliad Datblygu Gyrfa.
Os nad oes gennych y cymhwyster FfCC yn barod, byddwn yn rhoi'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gyflawni'r cymhwyster gwerthfawr hwn.

Os nod ydych yn meddu ar y cymhwyster FfCC, fe wnawn ddarparu’r hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol i’ch cynorthwyo i gael y cymhwyster gwerthfawr yma. Dylai Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol a byddant yn cwblhau Diploma Lefel 6 mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa. Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol ar lefel gradd, a fydd yn cael ei gwblhau yn y gweithle, ond bydd angen dysgu'n annibynnol yn amser y dysgwr ei hun.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at AD@gyrfacymru.llyw.cymru erbyn 9am 30/01/23. Bydd y broses ddethol ar ffurf asesiad mewn canolfan asesu gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd ymlaen i gam cyfweld terfynol. Bwriedir cynnal y prosesau asesu yma yn ddigidol ar Teams.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Mae'r swydd-ddisgrifiad llawn, y ffurflen gais a'r ffurflen Asesu Iaith Gymraeg (os ydych yn medru siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) er mwyn gwneud cais am y swydd hon ar gael yn: https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni