MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £14.14 | Grade 3
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Arholiadau Achlysurol - Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £14.14 | Grade 3

Rydym yn dymuno penodi Goruchwyliwr Arholiadau i ymuno â'n tîm arholiadau ar gyfer cyfres arholiadau mis Tachwedd sydd ar y gorwel. Bydd cyfleoedd i oruchwylio arholiadau drwy gydol y flwyddyn ysgol. Mae mwy nag un swydd ar gael ar gyfer y rôl hon.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi'r Swyddog Arholiadau i baratoi a gweinyddu arholiadau, gan sicrhau bod holl weithdrefnau'r arholiadau yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau'r corff dyfarnu. Bydd dyletswyddau'n cynnwys paratoi ystafelloedd arholi, dosbarthu a chasglu papurau arholi, goruchwylio ymgeiswyr yn ystod arholiadau, a chynnal amgylchedd arholiadau tawel a diogel.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gallu gweithio'n effeithiol mewn lleoliad prysur, gan ddangos sylw rhagorol i fanylion. Mi fyddwch yn ddibynadwy eich natur ac yn broffesiynol. Byddai profiad blaenorol mewn ysgol neu amgylchedd gweinyddol yn fanteisiol, er y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.

Os ydych chi'n weithgar, yn ddibynadwy, yn frwdfrydig ac yn hyblyg, ac os oes gennych sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i gefnogi myfyrwyr, rydym yn croesawu eich cais.

Mae hon yn swydd achlysurol, a phennir yr oriau a'r diwrnodau gwaith yn ôl yr amserlen arholiadau. Efallai y bydd yn ofynnol i oruchwylwyr weithio yn ystod mis Tachwedd, Ionawr a chyfnodau arholiadau'r Haf. Mae prif dymor arholiadau'r haf fel arfer yn dechrau o ganol mis Mai tan ddiwedd Mehefin.

Bydd deiliaid y swydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Swyddog Arholiadau.

Yn unol ag ethos ein hysgol, rydym yn chwilio am unigolion a fydd yn cynnal amgylchedd tawel, parchus a chefnogol i bob myfyriwr, gan eu galluogi i wneud eu gorau yn ystod eu harholiadau.

Gweler y swydd-ddisgrifiad llawn a'r fanyleb person yn y pecyn ymgeiswyr.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Louise Penny, Rheolwr Busnes ar 01495 765800 neu louisepenny@stalbans.schoolsedu.org.uk

DYDDIAD CAU: Dydd Sul 1 Tachwedd 2026

DYDDIAD TYNNU'R RHESTR FER: Dydd Llun 2 Tachwedd 2026

DYDDIAD Y CYFWELIAD: Dydd Iau 5 Tachwedd 2026

DYDDIAD CYCHWYN: Dyddiad i'w gadarnhau yn amodol ar gliriad DBS

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.