MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 23 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Canol Dydd i Gyflenwi - Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2

Angen o: 02/11/2026 (yn amodol ar wiriadau cyn cyflogaeth)

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yn dymuno penodi Goruchwyliwr Canol Dydd i gyflenwi pan fydd staff yn absennol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm cyfeillgar o oruchwylwyr canol dydd a staff yr ysgol ar sail ad hoc, yn ôl yr angen. Ar ddiwrnodau pan fydd angen iddynt weithio, yr oriau gwaith fydd 1.5 awr y dydd - 11:45 i 13:15.

Mae dyletswyddau goruchwyliwr canol dydd yn cynnwys goruchwylio plant yn y neuadd ginio a/neu'n chwarae y tu allan, rhoi cymorth cyntaf ar gyfer mân anafiadau a chynorthwyo plant gyda phrydau bwyd lle bo angen.

Os ydych chi'n gyfeillgar ac yn hawdd dod atoch, yn chwilio am waith achlysurol, lle nad yw unrhyw dau ddiwrnod yr un peth, gallai'r rôl hon fod yn berffaith i chi!

Mae manylion llawn y rôl i'w gweld yn y swydd-ddisgrifiad.

Dyddiad Cau: 23/10/2026

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.