MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)
Yn eisiau ar gyfer : Cyn gynted a sydd bosib.
GORUCHWYLIWR ARHOLIADAU
Swydd Achlysurol.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: Achlysurol
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 3 (£13.28 yr awr + elfen o dal gwyliau).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Arweinydd Prosiect, Ms Bethan Roberts, Rhif ffôn: 01248 364905.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms Bethan Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;
e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 21 HYDREF 2026
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
GORUCHWYLIWR ARHOLIADAU
Oriau gwaith: Achlysurol
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2
Yn atebol i: Swyddog Arholiadau a'r Uwch Dîm Arwain
Lefel Datgelu: Uwch
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff a'r gwirfoddolwyr i rannu'r ymrwymiad hwn.
Pwrpas y rôl yw sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael amgylchedd cyfartal, saff a diogel i sefyll eu harholiadau yn unol â chanllawiau'r Cydgyngor Cenedlaethol dros Gymwysterau ar gyfer cynnal arholiadau.
PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
• Goruchwylio mynediad yr ymgeiswyr i'r ystafell arholi
• Cyfarwyddo ymgeiswyr i'w seddi penodedig
• Gwneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn ymwybodol eu bod o dan amgylchiadau arholi
• Agor a dosbarthu papurau arholiad i'r ymgeiswyr
• Dechrau'r arholiad a darllen unrhyw rybuddion erratum yn uchel
• Llenwi cofrestr presenoldeb
• Sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o amser dechrau a gorffen yr arholiad
• Sicrhau bod y rheoliadau arholi wedi eu gosod gan y Byrddau Arholi a'r Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) yn cael eu gwireddu
• Bod yn wyliadwrus, ond nid yn ymwthiol drwy gyfnod yr arholi
• Dosbarthu papur/offer ychwanegol fel bo'r angen
• Gorffen arholiad
• Casglu papurau a sgriptiau arholiad ar ddiwedd yr arholiad fel y cyfeirwyd.
• Goruchwylio'r ymgeiswyr yn gadael yr ystafell arholi mewn modd trefnus
• Dychwelyd papurau arholiad wedi eu cwblhau, sgriptiau arholiad ac unrhyw nwyddau arholiad i ardal ddiogel ar ddiwedd arholiad
• Goruchwylio unrhyw arholiadau ymarferol (h.y. Gwyddoniaeth, Celf) yn unol â chais y Swyddog Arholiadau.
• Cynorthwyo mewn gweithgareddau eraill y gall y ganolfan yn rhesymol ofyn amdanynt o bryd i'w gilydd,
RÔL Y GORUCHWYLIWR
Mae gan y Cydgyngor dros Gymwysterau (JCQ) ddogfen cyfarwyddiadau ar gynnal arholiadau. Mae'r ddogfen JCQ yn disgrifio beth yw rôl goruchwyliwr a chaiff hyn ei restru isod.
Goruchwyliwr yw'r unigolyn yn yr ystafell arholi sy'n gyfrifol am gynnal yr arholiad. Mae ganddynt "rôl allweddol wrth gynnal cyfanrwydd y broses arholi/asesu allanol".
Dylai goruchwylwyr:
• Sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael cyfle cyfartal i ddangos eu galluoedd
• Sicrhau diogelwch o flaen llaw, yn ystod ac ar ôl arholiad
• Atal y posibilrwydd o unrhyw gamymarfer gan ymgeiswyr
• Atal y posibilrwydd o fethiannau gweinyddol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi