MANYLION.
  • Lleoliad: Abermule,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £31,015 i £33,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.07 i £17.16 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) (Ysgol Gynradd Gymunedol Abermiwl)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £31,015 i £33,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.07 i £17.16 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) (Ysgol Gynradd Gymunedol Abermiwl)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r swydd hon wedi'i chyfuno gyda'r rôl fel Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) Abermiwl SAC0109

Datblygu dysgu'r disgyblion mewn ystod o sefyllfaoedd yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan os nad yw'r athro priodol yn bresennol.
Cefnogi gwaith athro cymwysedig ac, o dan system oruchwylio y cytunwyd arni, bod yn gyfrifol am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt. Mae hyn yn golygu gwneud gwaith penodedig (gweler * isod), gan gynnwys cynllunio, paratoi a
chyflenwi gweithgareddau dysgu i ddisgyblion/grwpiau unigol neu, yn y tymor byr, i ddosbarthiadau cyfan a monitro, asesu, cofnodi ac adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(*O dan A133 o Ddeddf Addysg 2002, diffinnir gwaith penodedig fel a ganlyn:
• cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
• cyflenwi gwersi i ddisgyblion, gan gynnwys eu cyflenwi drwy dechnegau
dysgu o bell neu gyda chymorth cyfrifiadur
• asesu a chofnodi datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
• adrodd am ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
Mae 'disgyblion' yn cynnwys gwaith gyda disgyblion unigol yn ogystal â grwpiau a dosbarthiadau cyfan).
Bod yn aelod o dîm amlddisgyblaethol a gweithio o dan arweinyddiaeth athro
cymwysedig a bennwyd i'r dosbarth neu'r grŵp. Bydd yn gweithio â lefel uchel o awdurdod dirprwyedig o dan system oruchwylio y cytunwyd arni.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.