MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Presteigne,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Athro Dosbarth (Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed)Swydd-ddisgrifiad
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed am benodi ymarferydd dosbarth brwdfrydig ac ysbrydoledig sy'n ymrwymedig i les, dysgu a chymuned yr ysgol.
Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr gyda ffocws ar gyflawni dysgu ac addysgu, codi cyrhaeddiad a chynnydd.
Mae hon yn swydd dros gyfnod mamolaeth. Disgwylir i'r swydd gychwyn ddydd Llun 11 Ionawr 2026. Mae'r swydd am 0.8 FT, gyda'r posibilrwydd o oriau ychwanegol. Mae'r swydd hon tan 31 Awst 2027 yn y lle cyntaf.
Rydym am benodi ymarferydd rhagorol:
- sydd â phrofiad o addysgu a chynllunio profiadau dysgu ar draws lleoliad ysgol gynradd
- yn gallu cydweithio mewn tîm bach ac yn annibynnol, gan ddangos sgiliau trefnu cryf
- yn gallu cyfrannu at ddigwyddiadau ysgol gyfan, a deall gwerthoedd lleoliadau ysgolion bach
- sydd â'r gallu i adeiladu perthynas gadarnhaol â dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
- sydd â'r gallu i arloesi profiadau dysgu, gan ddarparu cyfleoedd hygyrch i bawb
- yn gallu myfyrio ar ymarfer, ac yn hyblyg i arloesi mewn addysgeg, cwricwlwm ac asesu
- yn barod i weithio'n galed, yn ddibynadwy, yn brydlon ac yn gweithio gydag egni a brwdfrydedd.
- sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Ysgol hapus gyda dyheadau uchel i bob dysgwr
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol yn unol â'r safonau addysgu ac arweinyddiaeth broffesiynol cenedlaethol
- Tîm cefnogol ymroddedig o ymarferwyr a llywodraethwyr
Estynnir croeso cynnes i chi ymweld â'r ysgol a gellir trefnu hyn drwy ffonio'r ysgol - 01544 350203 neu e-bostio office@radnor.powys.sch.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21 ain Hydref 2026
Creu rhestr fer: 22 Hydref 2026
Cyfweliadau: 12 Tachwedd 2026
Bydd rhaid cael Gwiriad Manwl DBS ar gyfer y swydd hon