MANYLION.
  • Lleoliad: City Centre Campus,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £26,749 - £29,123 per annum
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cyngor ac Arweiniad Campws

Coleg Caerdydd a'r Fro

Cyflog: £26,749 - £29,123 per annum

Mae dau swydd wag ar gael. Mae un o'r swyddi hyn wedi'i dynodi'n swydd lle mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn chwilio am Gynorthwyydd Cyngor ac Arweiniad Campws i weithio'n bennaf yn un o'n safleoedd ar Heol Dumballs, Caerdydd, ond disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth ar safleoedd eraill yn ôl yr angen. Bydd ein Cynorthwywyr Cyngor ac Arweiniad Campws yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i bob rhanddeiliad, gan gynnal gwasanaeth proffesiynol, dymunol a chroesawgar o fewn yr ardal gwasanaethau myfyrwyr.
Fel rhan o'r rôl, byddwch yn:
  • Cynnal gwasanaeth derbynfa proffesiynol, dymunol a chroesawgar, gan sicrhau bod yr ardal dderbyn yn lân ac yn daclus bob amser.
  • Croesawu ymwelwyr i'r Coleg, rhoi bathodynnau ymwelwyr iddynt a'u cyfeirio'n briodol.
  • Ymateb yn effeithiol ac yn effeithlon i bob sianel gyfathrebu yn ôl yr angen.
  • Ymdrin â phob ymholiad mewn modd cwrtais a chymwynasgar; gall y rhain fod dros y ffôn, drwy e-bost, drwy sgwrs fyw neu wyneb yn wyneb.
  • Datrys ymholiadau yn y fan a'r lle lle bo'n bosibl neu gyfeirio ymwelwyr a dysgwyr at y person mwyaf priodol i ateb a datrys eu hymholiadau.
  • Ateb ymholiadau a darparu gwybodaeth am ystod lawn cyrsiau'r Coleg dros y ffôn, drwy e-bost ac i'r rhai sy'n galw heibio'n bersonol.
  • Mewnbynnu ceisiadau a diweddaru holl gofnodion EBS, gan gynnwys cofnodion cyswllt, yn ôl yr angen.
  • Croesawu ymgeiswyr mewn digwyddiadau a nosweithiau agored, a chynrychioli a hyrwyddo'r gwasanaeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau'r Coleg, gan gynnwys Diwrnodau Agored a Ffeiriau Gyrfaoedd Addysg Uwch.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus gefndir addysgol cadarn, gan gynnwys o leiaf TGAU Mathemateg a Saesneg neu gymwysterau cyfatebol, ynghyd â phrofiad perthnasol. Byddai cymhwyster Lefel 4 neu gyfwerth mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad yn fanteisiol, ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y rôl.

Ar gyfer un o'r swyddi hyn, mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol. Bydd y swydd arall yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg hefyd.

Rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i'r cyfweliad a'r broses asesu gael eu cynnal yn Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 10/07/2026 am 11:59yh.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cavc.ac.uk neu cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 02920 250311 neu drwy e-bostio recruitment@cavc.ac.uk.

Mae pob swydd wag yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb dystysgrif DBS ddilys a chyfredol. Mae hwn yn ofyniad cytundebol y mae'n rhaid ei fodloni cyn dechrau cyflogaeth. Mae gweithdrefn y Coleg ar Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Mae'r gofynion hyn yn amodau cytundebol y mae'n rhaid eu bodloni cyn i'ch cyflogaeth ddechrau.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl mewn cyflogaeth ac rydym yn gyflogwr sy'n aelod o gynllun Hyderus o ran Anabledd.