MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
GOFALWR / GOFALWRAIG
Oriau gwaith : 37 awr yr wythnos
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 7.5 awr y diwrnod Llun-Iau a 7 awr dydd Gwener, ac i weithio i batrwm gwaith yn ystod yr amseroedd canlynol er mwyn agor a chau'r adeilad. Yn ogystal bydd angen gweithio oriau ychwanegol yn ystod y dydd er mwyn gweithio 37 awr yr wythnos, bydd hyblygrwydd o ran yr oriau yn unol a gofynion yr Ysgol.
Dydd Llun - 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Mawrth 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Mercher - 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Iau - 7.30-11.00 yb / 2.00-6.00 yh
Dydd Gwener - 7.30-11.00 yb / 2.15-5.45 yh
Mae Ysgol Glan Y Mor yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egniol sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd o Ofalwr / Gofalwraig yr ysgol.
Graddfa Cyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 -6, (£25,583 - £25,989). Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Marina Parry Owen , Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN 13eg o ORFFENNAF, 2026.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Goramser: Pan fydd defnydd yn cael ei wneud o'r ysgol gyda'r nos a/neu ar ben wythnos disgwylir i'r gofalwr fod yn bresennol er mwyn cadw golwg ar ddiogelwch yr adeilad a chloi i fyny ar ddiwedd y dydd. Pan fydd goramser yn cael ei dalu i'r gofalwr disgwylir iddo ymgymryd â gwaith o gwmpas yr adeilad.
Gwyliau: Gwyliau i'w cymryd yn ystod gwyliau ysgol (23 diwrnod y flwyddyn, gan godi i uchafswm o 28 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth di-dor.)
Bydd y Gofalwr yn gyfrifol am sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol gan sicrhau bod ystafelloedd a gwasanaethau ar gael ac mewn trefn ar gyfer athrawon a phawb arall sydd â hawl i'w ddefnyddio.
Cyfrifoldeb a Dyletswyddau (yn atebol i'r rheolwr llinell a thrwyddi hi i'r Pennaeth)
DIOGELWCH
- Cyfrifoldeb am ddiogelwch cyffredinol y safle.
- Cyfrifoldeb am ddiogelwch yr holl adeiladau. (Mae hyn yn cynnwys diogelwch yn ystod y dydd, yn ystod amseroedd o ddefnydd cymunedol ac ar ddiwedd y cyfnod glanhau)
- Rhwystro tresmas ar dir ac adeiladau yr ysgol
- Cyfrifoldeb am dywys a chydlynnu gweithwyr/contractwyr pan yn gweithio ar y safle.
- Cynnal a gwasanaethu system larwm yr ysgol.
- Cadw cofnod o amserau profi'r system tân a'r system larwm.
- Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn achlysuron o dân, llifogydd, torri mewn, damweiniau neu Disgwylir i ofalwr wybod am leoliad offer a ddefnyddiau cymorth cyntaf, tapiau a llefydd troi cyflenwadau i ffwrdd.
- Sicrhau diogelwch staff a disgyblion yn ystod tywydd garw drwy wasgaru halen i sicrhau llwybrau clir/maes parcio yn ddiogel
- Sicrhau y cydymffurfir â holl ofynion statudol yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr Ysgol
- Pan fydd gwaith cynnal a chadw yn digwydd a phan nad yw'n gweithio, darparu goriadau i bartïon eraill. Ni fydd yn gyfrifol am ddiogelwch yn ystod y cyfnodau hyn.
- Bod yn bwynt cyswllt mewn argyfwng ar restr yr ysgol.
DYLETSWYDDAU DYDDIOL
- Cyfrifoldeb am agor holl adeiladau/giatiau'r ysgol yn y bore, a'u cloi ar derfyn dydd a diffodd y larwm diogelwch.
- Gosod larwm diogelwch yr ysgol wrth adael bob dydd.
- Dal goriadau'r sefydliad.
- Cofnodi'r ddogfen 'gwirio safle' a rhestr argyfwng
- Agor a chau safleoedd ac adeiladau'r ysgol tu allan i oriau arferol ysgol.
- Cyfrifoldeb am sicrhau fod cyflenwad digonol o ddeunyddiau glanhau ar gyfer toiledau/ystafelloedd ymolchi.
- Clirio a glanhau'r ardal o gwmpas yr ysgol sicrhau fod yr ardal yn glir o sbwriel tu mewn a thu allan i'r adeilad
- Cludo offer/adnoddau a dodrefn i'r ystafelloedd/adrannau
- Cludo post, parseli, ac yn y blaen i'r man casglu.
- Gosod y neuadd ar gyfer gwasanaethau boreol/cyngerdd/eisteddfod ayyb.
- Ymateb i argyfyngau y tu allan i oriau gwaith arferol.
CYNNAL A CHADW CYFFREDINOL
- Gofalu am systemau gwresogi'r yr holl adeiladau, sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn gweithio yn iawn - adrodd i'r Pennaeth/Swyddog Gweinyddol ar unrhyw ddiffygion a welir i wresogyddion unigol neu i'r system wresogi yn gyffredinol.
- Cofnodi darlleniadau mesuryddion ynni'r ysgol.
- Cynnal a chadw'r adeiladau, ynghyd â chynnal a chadw offer (e.e. mân drwsio, newid lampau, clirio draeniau, glanhau trapiau, archwilio cyflwr dodrefn, ymateb i argyfwng ee gorlifo)
- Gofalu fod offer ymladd tân yn y llefydd priodol fel y nodir gan y Prif Swyddog Tân gan hysbysu'r Pennaeth/Swyddog Gweinyddol o unrhyw ddiffygion.
- Clirio a glanhau cyffredinol er mwyn sicrhau fod yr ysgol yn edrych yn daclus pob amser
- Bod yn gyfrifol am drefniadau gwaredu gwastraff yr ysgol.
- Yn ystod gwyliau'r ysgol, gwneud gwaith cynnal e.e. paentio, trwsio ac unrhyw gais rhesymol ar ddymuniad y Pennaeth/Swyddog Gweinyddol
- Gosodiadau gyda'r hwyr
- Cyflawni dyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth/Swyddog Gweinyddol.
Gyda rhybudd ymlaen llaw gellir disgwyl i ofalwr weithio shifftiau rhannol a bydd y tâl ychwanegol cydnabyddedig yn cael ei dalu.
Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi