MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Abergele,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8 - 11 £21,834 - £22,907 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Gweinyddol Parhaol - Ysgol Y Gopa
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8 - 11 £21,834 - £22,907 y flwyddyn
YSGOL TAN Y GOPA(Ysgol Newydd Ardal Abergele)
Pennaeth: Mrs Zoe Cope
Yn eisiau ar gyfer mis Medi 2026
CYMHORTHYDD GWEINYDDOL- PARHAOL
Mae Llywodraethwyr Dros Dro Ysgol Tan y Gopa yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig, egniol ac ymroddgar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos ochr yn ochr â chydweithiwr gweinyddol arall mewn swyddfa a rennir, gan gyfrannu'n gadarnhaol fel rhan o dîm cefnogol a chydweithredol. Mae'r gallu i gyfathru trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd yma.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth (01745 823584)
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English