MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa NJC G02 pwynt 4 - 5 £17,121 - £17,392 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 Dros Dro - Ysgol Llanddoged
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa NJC G02 pwynt 4 - 5 £17,121 - £17,392 y flwyddyn
YSGOL LLANDDOGEDLlanddoged, Llanrwst LL26 0BJ
Ffôn: (01492) 640 363
Pennaeth: Mr Gareth Davies
Yn eisiau erbyn mis Medi 2026
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2 DROS DRO
(Contract Dros Dro hyd at 03/01/2027)
Cyflog: Graddfa NJC G02 pwynt 4 - 5 £17,121 - £17,392 y flwyddyn
Oriau: 30 awr yr wythnos, tymor ysgol yn unig
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro, i gefnogi disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth ar
pennaeth@llanddoged.conwy.sch.uk
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English