MANYLION.
  • Lleoliad: Llanidloes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Cyfnod Mamolaeth cychwyn Medi 2026)
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cynnig amgylchedd dysgu bywiog a llewyrchus, gydag ethos gofalgar iawn a thîm staff eithriadol o ymroddedig. Rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol a'n hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr a datblygiad proffesiynol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Cymorth Dysgu ysbrydoledig a brwdfrydig ymuno â'n Hadran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin cariad at ddysgu a chyfrannu at ein hadran ddeinamig a blaengar.
Bydd yr ymeisydd llwyddiannus yn:
• gofalu'n fawr am lesiant a llwyddiant academaidd ein holl ddisgyblion.
• cael profiad o gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
• gallu darparu cyfleoedd dysgu deniadol i ddisgyblion mewn grwpiau bach, yn ogystal â'u cefnogi mewn lleoliad ystafell ddosbarth.
• bod yn frwdfrydig iawn, ysbrydoli cariad at ddysgu a sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r safonau academaidd uchaf posibl.
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
• bod yn chwaraewr tîm go iawn.
• meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac ethos gwaith cryf.
• cynnal agwedd 'gallaf wneud' at ddatrys problemau.
Byddai'r gallu i ddarparu cymorth dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais ond nid yw'n hanfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 28 Mehefin 2026. Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio Ddydd Llun 29 Mehefin 2026 a chynhelir y cyfweliadau ddydd Mawrth 30 Mehefin 2026.
Mae croeso i chi gysylltu â Mrs Susan Bound, Rheolwr Busnes, am ragor o wybodaeth. s.bound@llanidloes-hs.powys.sch.uk