MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly Rate: £13.90 - £14.82 | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid dan Hyfforddiant - Gwasanaeth Ieuenctid

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly Rate: £13.90 - £14.82 | Grade 4

Rhan-amser, 7 awr yr wythnos dros ddwy noson yn ystod y tymor, gyda'r posibilrwydd o oriau ychwanegol yn ystod y gwyliau.

Cyfnod penodol am flwyddyn o'r dyddiad cychwyn gyda'r bwriad o ymestyn os sicrheir cyllid ychwanegol.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yn chwilio am Weithiwr Cymorth Ieuenctid dan Hyfforddiant i gefnogi cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc mewn lleoliadau clwb ieuenctid yn ardal Pont-y-pŵl i ddechrau a hefyd ledled Torfaen. Mae angen i'r ymgeisydd ddangos y gallu i feithrin perthnasoedd â phobl ifanc a chyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd ochr yn ochr â phobl ifanc. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant gwaith ieuenctid.
Am drafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd wag hon, cysylltwch â Helen Cooling ar helen.cooling@torfaen.gov.uk / 07852 210228 neu david.williams@torfaen.gov.uk / 07980 682276

Cynhelir cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau 24 Awst.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.