MANYLION.
  • Lleoliad: Rural,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £10,395 - £10,561 y flwyddyn (Llawn Amser: £25,989 - £26,403) (G03)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau a Chyfleusterau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £10,395 - £10,561 y flwyddyn (Llawn Amser: £25,989 - £26,403) (G03)

Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Awyr Agored Pentrellyncymer

Mae Canolfan Addysg Awyr Agored Pentrellyncymer yn un o ddwy Ganolfan Breswyl sy'n rhan o Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru. Mae'r Ganolfan wedi'I lleoli ger Llyn Brenig a Cerrigydrudion, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r ganolfan yn cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau addysg awyr agored preswyl a dydd i ddisgyblion cynradd ac uwchradd.

O ganlyniad i ymddeoliad y rheolwr blaenorol, rydym ni bellach wedi rhannu'r swydd cynnal a chadw rhwng y ddwy ganolfan ac yn chwilio am rywun i ymgymryd â swyddog cyfleusterau yng Nghanolfan Pentrellyncymer. Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r swyddogaeth cynnal a chadw dydd i ddydd yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentrellyncymer. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y safle'n ddiogel, yn cael ei gynnal yn dda, a'i fod yn addas ar gyfer y diben, gan gefnogi ei ddefnydd parhaus as gyfer gweithgareddau addysgol a chymunedol. Mae'r swydd yn cynnwys monitro a chynnal a chadw systemau arbenigol yn y ganolfan yn rheolaidd, gan gynnwys systemau dŵr, systemau gwresogi, henebion a nodweddion treftadaeth, a cherbydau.

Dylid meddu ar rai cymwysterau / profiad yn gysylltiedig ag adeiladau a rheoli cerbydau, a dylid gallu gyrru bws mini (trwydded D1+E). Mae'r swydd yn 14.8 awr yr wythnos, ac mae disgwyliad i rannu hynny dros 2 i 4 diwrnod yr wythnos. Bydd yr union batrwm gweithio yn cael ei gytuno gan Bennaeth y Ganolfan. Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny Wilson, Pennaeth y Ganolfan ( jenny.wilson@conwy.gov.uk / 01492 640735)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.