MANYLION.
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Dosbarth Dysgu Sylfaenol Dros Dro - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL

Tel: (01492) 577290

Pennaeth Mewn Gofal: Miss Salisbury

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

ATHRO/ATHRAWES DOSBARTH DYSGU SYLFAENOL

DROS DRO

Contract tymor penodedig 1 flwyddyn
01/09/2026 - 31/08/2027

Mae Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes angerddol, ofalgar a phrofiadol i ymuno â'n tîm ac addysgu o fewn ein darpariaeth Dysgu Sylfaenol.

Gweledigaeth. Dyhead. Pwrpas.

Yn Sŵn y Don, rydym yn meithrin creadigrwydd ac yn annog pawb i ddilyn eu breuddwydion.

Rydym yn angerddol am roi plant yn gyntaf, drwy gwricwlwm cynhwysol, ysbrydoledig ac arloesol sy'n ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu sydd wedi'i adeiladu ar sylfeini ymddiriedaeth, parch a derbyniad. Mae ein plant yn ddiogel ac yn hapus.

Yn Sŵn y Don, rydym wir yn credu bod popeth yn bosibl.

Drwy gefnogaeth a gofal, rydym yn grymuso ein disgyblion i fod yn llwyddiannus, gan roi'r offer iddynt ddeall sut i fyfyrio, datblygu a chymryd cyfrifoldeb am eu teithiau dysgu eu hunain.

Gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol gwell i bawb!

Ehangu eich gorwelion. Credu yn eich breuddwydion.

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon profiadol ac ymroddedig sy'n deall pwysigrwydd datblygu Cwricwlwm i Gymru drwy'r pedwar diben ac sy'n rhoi lles a maethu wrth galon eu haddysgu a'u dysgu.

Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
  • Ysgol gyfeillgar, groesawgar a maethus lle mae cynhwysiant a lles disgyblion wrth galon popeth a wnawn
  • Amgylchedd sy'n seiliedig ar egwyddorion ymwybyddiaeth o drawma, sy'n gwerthfawrogi tegwch, cydraddoldeb a pherthnasoedd cadarn
  • Staff ymroddedig, medrus a chefnogol sy'n gweithio'n gydweithredol i ddarparu profiadau dysgu ystyrlon ac ymgysylltiol
  • Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr, gan gynnwys cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus a datblygiad arweinyddiaeth

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Dangos trefniadaeth ystafell ddosbarth effeithiol a sgiliau rheoli ymddygiad cadarn
  • Meddu ar brofiad o addysgu o fewn y Cyfnod Cynnar a / neu Ddysgu Sylfaenol
  • Gallu cynllunio a chyflwyno profiadau dysgu ymgysylltiol gyda disgwyliadau uchel
  • Defnyddio asesu wedi'i lywio gan arsylwadau i gefnogi a monitro cynnydd dysgwyr
  • Gallu gwahaniaethu'n effeithiol i ddiwallu anghenion pob dysgwr
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda disgyblion, staff a rhieni/gofalwyr
  • Gallu gweithio'n effeithiol gan ddefnyddio eu menter eu hunain ac fel rhan o dîm
  • Bodloni gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • Bod yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg a rhagweithiol
  • Gallu cefnogi neu arwain Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh)
    Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
    • Dangos ymarfer ystafell ddosbarth rhagorol a'r gallu i ysgogi ac ymgysylltu dysgwyr ifanc
    • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant, lles a maethu
    • Yn athro/athrawes greadigol ac ysbrydoledig sy'n gwneud dysgu yn bleserus ac yn ystyrlon
    • Yn gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ac yn cyfrannu at fywyd yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
    • Yn ofalgar ac ymroddedig, gan roi disgyblion wrth galon popeth a wnânt
    • Yn meddu ar ddiddordeb mewn, ac o bosibl brofiad o gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (dymunol).

    Rhinweddau a sgiliau dymunol:
    • Gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o asesu a chamau cynnydd o fewn Cwricwlwm i Gymru
    • Profiad o, neu'r parodrwydd i ddatblygu, cyfrifoldeb arweiniol dros y Gymraeg, gan hyrwyddo defnydd y Gymraeg ar draws yr Ysgol.

    Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

    Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau yn y swydd.

    Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth Mewn Gofal ar 01492 577290.

    Noder nad yw'r awdurdod bellach yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

    Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, dylent gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer. Wrth hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r gofynion hanfodol yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

    This form is also available in English