MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanrwst,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £16,094 - £16,885 y flwyddyn (Llawn Amser: £26,824 - £28,142) (G04)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Cynnal a Chadw Adeiladau a Chyfleusterau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £16,094 - £16,885 y flwyddyn (Llawn Amser: £26,824 - £28,142) (G04)
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Awyr Agored Nant BHMae Canolfan Addysg Awyr Agored Nant BH yn un o ddwy Ganolfan Breswyl sy'n rhan o Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru. Mae'r Ganolfan wedi'i lleoli yng Nghoedwig Gwydir, ger Betws-y-coed, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau addysg awyr agored preswyl a chyrsiau dydd ar gyfer myfyrwyr oedran cynradd ac uwchradd.
O ganlyniad i ymddeoliad y rheolwr blaenorol, rydym ni bellach wedi rhannu'r swydd cynnal a chadw rhwng y ddwy ganolfan ac yn chwilio am rywun i ymgymryd â swydd rheolwr cyfleusterau yng Nghanolfan Nant BH, ac i oruchwylio'r swydd cyfleusterau ym Mhentrellyncymer. Mae'r swydd yn cynnwys rheoli fflyd o fysiau mini, sicrhau bod pob agwedd ar yr adeiladau a'r tir yn bodloni'r rheoliadau arferion gorau a diogelwch presennol, trefnu contractwyr ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw, rheoli staff cymorth - y cogyddion a'r glanhawyr, a gallu cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cyrsiau drwy sicrhau bod y bysiau a'r canolfannau'n barod ac mewn cyflwr da, a bod â dealltwriaeth o anghenion y cyrsiau sy'n cael eu cyflwyno. Dylid meddu ar rai cymwysterau / profiad yn gysylltiedig ag adeiladau a rheoli cerbydau, a dylid gallu gyrru bws mini (trwydded D1+E). Mae'r swydd yn 22.2 awr yr wythnos, ac mae disgwyliad i rannu hynny dros 3 i 5 diwrnod yr wythnos. Bydd yr union batrwm gweithio yn cael ei gytuno gan Bennaeth y Ganolfan. Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny Wilson Pennaeth y Ganolfan 01492 640735 Jenny.wilson@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.