MANYLION.
  • Lleoliad: Trefeglwys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Dyffryn Trannon)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Dyffryn Trannon)
Swydd-ddisgrifiad

Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 14/07/2026


Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

CYNORTHWYYDD ADDYSGU (Lefel 2)
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
Cynorthwyydd Addysgu (Cyfnod Penodol)
Angen erbyn: 1 Medi 2026
Swydd: 27.5 awr yr wythnos dros bum diwrnod.
Cyfnod Penodol: 01.09.26 - 31.08.27
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Dyffryn Trannon, Trefeglwys, yn dymuno penodi
Cynorthwyydd Addysgu ymroddedig i ymuno â'n tîm.
Rydym yn chwilio am unigolyn cymwysedig, gofalgar, dibynadwy a brwdfrydig a fydd yn gweithio'n effeithiol ochr yn ochr â'n staff presennol i gefnogi dysgu a lles ein disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• ymarferydd rhagorol â disgwyliadau uchel ar gyfer pob plentyn.
• ddigyffro, yn gydnerth ac yn amyneddgar wrth gefnogi dysgwyr.
• meddu ar y gallu i gynorthwyo wrth gyflwyno pob agwedd ar ddysgu ac addysgu.
• gyfathrebwr effeithiol sy'n gallu gweithio'n gydweithredol gyda chydweithwyr, disgyblion
a rhieni.
• barod i gyfrannu'n llawn at fywyd ehangach yr ysgol.
Croesawir ymholiadau anffurfiol ynghylch y swydd ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r
Pennaeth, Mrs Caroline Harries drwy ffonio: 01686 430644 neu drwy e-bost head@dyffryntrannon.powys.sch.uk
Manylion y Broses Recriwtio:
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 5 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau: I'w cadarnhau
Gellir gwneud cais ar-lein drwy wefan Cyngor Sir Powys: Swyddi Gwag - Cyngor Sir Powys
Rhaid dychwelyd ffurflenni cais i'r Awdurdod erbyn y dyddiad cau: 05.07.26.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.