MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Pwnc: Mentor
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2026 12:00 y.p
Mewngofnodwch i ymgeisio

Diogelu Plant a mentor PDG

Ysgol Aberconwy
Diogelu Plant a mentor PDG
O fis Medi 2026 bydd angen
Ystod Cyflog : G05 : £24,609 - £27,588
Mae hon yn swydd barhaol o 37 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod.
Dyddiad Cau: Dydd Iau, 9fed Gorffennaf 2026
Dyddiad Cychwyn : Medi 2026.

Rydym yn ceisio penodi mentor brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddarparu cefnogaeth wrth fynd i'r afael ag anghenion disgyblion sydd angen cymorth penodol mewn perthynas â materion Diogelu Plant ac i ddarparu cefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal.

Byddant yn gweithio o dan arweiniad ein cydlynydd cynhwysiant ac yn cymryd rôl arweiniol wrth ddarparu cefnogaeth fugeiliol i blant sy'n derbyn gofal, gan fynd i'r afael â'u hanghenion i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn benodol. Byddant yn gweithio gyda myfyrwyr i facsimeiddio eu gallu i ddysgu, cynyddu eu cymhelliant i barhau ym myd addysg, a'u cefnogi i ennill cymwysterau. Byddant yn derbyn ac yn cydlynu atgyfeiriadau amddiffyn plant, gan drefnu camau gweithredu ac adolygu gwasanaethau i blant a theuluoedd yn ogystal â chynnal dogfennaeth gywir, gyfrinachol a chyfredol ar bob achos o ddiogelu ac amddiffyn plant. Byddant hefyd yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol ag asiantaethau allanol, rhieni a gofalwyr.

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1100 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.

JOB REQUIREMENTS
I lawrlwytho Pecyn Gwybodaeth yr Ymgeisydd a gwneud cais ar-lein ewch i:

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/