MANYLION.
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Pwnc: Athro
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2026 12:00 y.p
Mewngofnodwch i ymgeisio

Athro/Athrawes Dyniaethau

Ysgol Aberconwy
Athro/Athrawes Dosbarth Dyniaethau

O fis Tachwedd 2026 bydd angen

Mae hon yn swydd barhaol, amser llawn, er y bydd ymgeiswyr rhan-amser hefyd yn cael eu hystyried.

Cyflog: Prif Raddfa Cyflog i Athrawon

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 6ed Gorffennaf 2026


Rydym yn awyddus i benodi person brwdfrydig a llawn cymhelliant i addysgu'r Dyniaethau - athro rhagorol a fydd yn arwain drwy esiampl ac yn cefnogi’r gyfadran yn eu cais i gyflawni eu targedau uchelgeisiol. Rydym yn annog ceisiadau gan athrawon sy’n teimlo y gallant ychwanegu gwerth i gyfadran sydd eisoes yn effeithiol iawn a ffynnu mewn amgylchedd dynamig a brwdfrydig.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Fod yn athro/athrawes neu ANG Daearyddiaeth neu Hanes gydag ymarfer dosbarth sy’n ‘Dda’ neu’n ‘Rhagorol’ yn gyson
• Fod yn eiriolwr brwd dros y pynciau sy’n cyfrannu’n effeithiol i welliannau adrannol ac ysgol gyfan
• Allu addysgu ar draws yr ystod oedran a’r ystod gallu lawn rhwng 11-18 oed.
• Fod yn awyddus iawn i fod yn Athro Dosbarth cefnogol
• Ddangos gallu ac awydd i wneud cyfraniad llawn i fywyd yr ysgol
• Fod â disgwyliadau uchel ohonynt hwy eu hunain ac eraill
• Fod yn gyfathrebwr da gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Fod yn hyblyg ac yn aelod da o dîm

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1100 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
JOB REQUIREMENTS
I lawrlwytho Pecyn Gwybodaeth yr Ymgeisydd a gwneud cais ar-lein ewch i:

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/