MANYLION.
  • Lleoliad: Llanidloes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrawes/Athro Dosbarth CA2 (Ysgol Gynradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athrawes/Athro Dosbarth CA2 (Ysgol Gynradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Swydd Athro CA2 llawn amser
Dau dymor, contract cyfnod penodol
Ei angen/ei hangen o fis Medi 2026
Mae 'Cynefin' wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Gynradd Llanidloes. Mae ein diwylliant a'n treftadaeth leol a chenedlaethol unigryw yn gefndir i bopeth a wnawn. Ein rôl fel addysgwyr yw ymgymryd â'r cyfrifoldeb hanfodol hwnnw o osod llwyfan sefydlog yn
ofalus y gall pob plentyn gychwyn ohono i'r byd ehangach amrywiol.
Gall pob plentyn sy'n mynd trwy gatiau ein hysgol ddisgwyl y gorau. Trwy brofiadau cyfoethog, cynhwysol ac ysgogol, bydd darganfod yn tanio creadigrwydd ein plant ac yn ysbrydoli cariad at ddysgu gydol oes.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sy'n:
• ymarferydd dosbarth rhagorol sydd â gwybodaeth dda o addysgu yng Nghyfnod
Allweddol 2, a dealltwriaeth o Gwricwlwm Cymru;
• cael disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad;
• gweithio'n dda fel rhan o dîm;
• angerddol dros wneud gwahaniaeth i'r plentyn 'cyfan'
• barod i ddangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
• tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr;
• dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig;
• amgylchedd dysgu gofalgar a
• phartneriaeth gref gyda rhanddeiliaid.
Croesawir ac anogir ymweliadau â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 01686 412603 neu office@llanidloes.powys.sch.uk i drefnu ymweliad.
Dyddiad cau: Dydd Llun 29 Mehefin
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Iau 2 Gorffennaf
Cyfweliad: Dydd Gwener 10 Gorffennaf
I gael ffurflen gais a manyleb swydd, ffoniwch 01597 826409, e-bostiwch
recruitment@powys.gov.uk neu ymgeisiwch ar-lein yn www.powys.gov.uk