MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 25,185 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 29 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Penrhyncoch

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,185 *

Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n angerddol am gefnogi dysgu a datblygiad plant? Mae ysgol Penrhyncoch yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac eiddgar i ymuno â'r tîm o Fis Medi am gyfnod o 1 blwyddyn. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:
  • Darparu cefnogaeth i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol, gan eu helpu i gael mynediad at ddysgu a meithrin hyder.
  • Gweithio gydag athrawon i gyflwyno gwersi a gweithgareddau deniadol.
  • Cefnogi datblygiad Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
  • Cynorthwyo gyda threfnu ystafell ddosbarth, paratoi adnoddau a gweithgareddau ysgol ehangach.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
  • Sydd â phrofiad o weithio gyda phlant neu ofalu amdanynt.
  • Yn meddu ar gymwysterau perthnasol (NVQ 3 neu gyfwerth) a sgiliau llythrennedd/rhifedd da.
  • Yn gallu defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi dysgu.
  • Yn gadarnhaol, yn hyblyg ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd.
  • Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant a gwaith tîm. Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Os ydych chi'n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Darganfyddwch fwy am ysgol Penrhyncoch yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catryn Lawrence ar lawrenceC53@penrhyncoch.cererdigion.sch.uk

Note: We reserve the right to extend the application closing date.

We are committed to safeguarding and protecting childrenand adults at risk. As part of this commitment, certain roles withinourorganisationrequire a Disclosure and Barring Service (DBS) check to assess the suitability of candidates. This role will require an Enhanced DBS check. Pleasenote that the presence of previous convictions will not necessarily disqualify a candidate from consideration for this position. We assess each applicant on a case-by-case basis, and take into account the nature and relevance of any convictions in relation to the responsibilities of the role. Our goal is to create an inclusive and supportive work environment where all individuals are treated fairly and with respect. If you have any concerns or questions regarding this process, please feel free to contact us for clarification. Your privacy and dignity are of utmost importance to us throughout the recruitment process.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere... Darllen mwy